Education Scotland: Mudo ac adnewyddu platfform gwefan

Astudiaeth Achos

Education Scotland: Mudo ac adnewyddu platfform gwefan

 Client Overview

Ynglŷn â’r Cwsmer

Industry

Diwydiant

Llywodraeth a’r Sector Cyhoeddus – Addysg

Headquartered

Pencadlys

Livingston, Yr Alban

Digital Reach

Cyrhaeddiad Digidol

Ledled y wlad

Language Support

Cefnogaeth Iaith

Dwyieithog – Saesneg a Gaeleg

Education Scotland sy’n gyfrifol am gefnogi a gwella addysg i ddysgwyr o bob oed yn Yr Alban: o ddysgu cynnar, gofal plant ac ysgolion i ddysgu a datblygiad cymunedol.

Nid oedd eu gwefan yn bodloni eu hanghenion erbyn hyn, felly fe ofynnon nhw i ni adeiladu gwefan newydd iddyn nhw gyda gwell dibynadwyedd ac ymatebolrwydd, a fyddai'n bodloni canllawiau hygyrchedd, ond eto'n ei gwneud yn rhwydd i'w golygyddion ddiweddaru cynnwys, gan gynnwys y gallu i gefnogi cynnwys dwyieithog (Saesneg a Gaeleg).

Edrychodd ein tîm ar eu hanghenion a'u gofynion ac awgrymwyd y dylid cyflawni ailddyluniad strwythurol cyflawn a symud i System Rheoli Cynnwys Umbraco (CMS), wedi'i gynnal ar Microsoft Azure. Roedden nhw'n hoffi ein gweledigaeth, ac fe wnaethom ni lwyddo i greu gwefan sy'n gweithio i Education Scotland a'u miloedd o ddefnyddwyr.

 

Y Gwasanaethau A Ddarparwyd Gennym

  • Datblygu Apiau
  • Dylunio Gwefannau
  • Profiad Y Defnyddiwr
  • Strategaeth Ddigidol

Technoleg

  • .Net
  • Umbraco
  • Azure
  • Sharepoint

 

Heriau

  • Gwella dibynadwyedd y wefan
  • Cydymffurfiad AA â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2, gan gadw edrychiad a theimlad eu brand
  • Mudo llawer o gynnwys a chyfryngau o’r wefan bresennol ar SharePoint i’r wefan newydd ar Umbraco
  • Ailgyfeirio defnyddwyr yn ddi-dor i leoliadau newydd y cynnwys a’r cyfryngau a gafodd eu mudo

 

Yr Ateb

  • Fe wnaethom ni adeiladu pensaernïaeth Azure sy’n caniatáu cydbwyso llwyth a geo-ddyblygiad, gan sicrhau bod y wefan ar gael drwy’r amser
  • Defnydd clyfar o liwiau, wedi’i ddiffinio drwy ddefnyddio arddull CSS, a ganiataodd i’r wefan gydymffurfio ag AA a chadw edrychiad eu brand
  • Sgriptiau pwrpasol i fudo’r data o’u gwefan SharePoint i’r wefan Umbraco newydd
  • Trefnwyr a darganfyddwyr cynnwys HTTP i ailgyfeirio defnyddwyr yn ddi-dor i leoliadau’r wefan newydd

 

Canlyniadau a Buddion

  • Llai o gostau o ran cynnal a waliau tân trydydd parti
  • Dibynadwy heb unrhyw amser segur wedi’i adrodd
  • Gwell profiad golygu; gall olygyddion cynnwys wella ac ehangu cynnwys yn ôl yr angen
  • Gwell hygyrchedd ac ymatebolrwydd
  • Gwell profiad wrth chwilio i ddefnyddwyr