Astudiaeth Achos
Cyfoeth Naturiol Cymru: System Cofnod Tynnu Dŵr

Ynglŷn â’r Cwsmer
Diwydiant
Llywodraeth a’r Sector Cyhoeddus
Pencadlys
Caerdydd, Cymru
Cyrhaeddiad Digidol
Ledled y DU
Cymorth Iaith
Dwyieithog – Saesneg a Chymraeg
Roedd angen system ar Gyfoeth Naturiol Cymru yn lle'r swyddogaethau a arferai gael eu cynnal gan Gronfa Ddata Tynnu Dŵr a Thrwyddedu Cenedlaethol Asiantaeth yr Amgylchedd, a fyddai'n caniatáu iddynt dracio sefydliadau â thrwyddedau i dynnu dŵr, a chodi ffioedd arnynt.
Gwnaethom adeiladu system sy'n integreiddio â system CRM Microsoft Dynamic cyfredol Cyfoeth Naturiol Cymru i gael gwybodaeth am ddeiliaid trwyddedau, y mae'n ofynnol iddynt gadw cofnod o'u gweithgareddau tynnu dŵr, a cheisio'r data hwn ganddynt. Gwnaethom hefyd adeiladu Gwasanaethau Adrodd Gweinydd SQL i gynhyrchu adroddiadau rheoli a Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API) bilio pwrpasol, sy'n defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i hysbysu tîm bilio Cyfoeth Naturiol Cymru ar faint o dâl i'w godi ar bob sefydliad.
Y Gwasanaethau A Ddarparwyd Gennym
- Datblygu Apiau
- Gweddnewidiad Digidol
- Integreiddio'r System
- Darparu Gwasanaethau Digidol
Technoleg
- .Net
- SQL
- Azure
Heriau
- proses gymhleth o integreiddio â systemau presennol
- storio, dilysu ac adrodd ar ddata
Yr Ateb
- cymhwysiad .NET i integreiddio â’r systemau SharePoint a CRM presennol
- cronfa ddata SQL Cloud
- API bilio pwrpasol
- SQL Server Reporting Services
Canlyniadau a Buddion
- cwbl integredig â’r systemau presennol
- system wedi’i chynnal ar y cwmwl
- gwell prosesau adrodd