Astudiaeth Achos
Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwasanaeth Rhagolwg Llifogydd y We

Ynglŷn â’r Cwsmer
Diwydiant
Llywodraeth a’r Sector Cyhoeddus
Pencadlys
Caerdydd, Cymru
Cyrhaeddiad Digidol
Cenedlaethol
Cefnogaeth Iaith
Dwyieithog – Saesneg a Chymraeg
Gofynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i Aspire systems ddatblygu amnewidiad pwrpasol i wasanaeth rhagolygon tywydd ar-lein sy’n statig ac yn heneiddio, a ddefnyddir yn gyson gan swyddogion dyletswydd CNC.
Defnyddiasom dechnoleg .NET i greu system sy'n derbyn ac yn casglu llawer o ddata crai o dros 200 o leoliadau yng Nghymru. Caiff hyn ei gasglu, ei wirio o ran cywirdeb a’i ddadansoddi drwy raglen Deltares Delft-FEWS, sef rhaglen gwmwl gyntaf y byd. Wedyn, caiff ei fewnforio i Wasanaeth Rhagolygon y We, sy’n rhoi trosolwg cyflawn o’r rhagolygon i’r swyddogion dyletswydd, gan dynnu sylw at faterion tywydd posibl, a'u helpu i ganolbwyntio ar unrhyw benderfyniadau angenrheidiol. Ynghyd â mewnforio dogfennau gan asiantaethau trydydd parti’n rheolaidd, gan gynnwys y Swyddfa Dywydd, mae'r system yn gallu rhoi darlun cyflawn o beryglon llifogydd ledled Cymru drwy ryngwyneb sengl.
Cyrhaeddodd y prosiect hwn rownd derfynol Gwobrau Technoleg Cymru yn 2017 yng nghategori’r Mabwysiadwr Technoleg Gorau
Y Gwasanaethau A Ddarparwyd Gennym
- Datblygu Apiau
- Gweddnewidiad Digidol
- Strategaeth Ddigidol
Technoleg
- .Net
- Azure
Heriau
- System hollbwysig, y mae angen iddi fod ar gael yn gyson
- Llawer iawn o ddata y mae angen eu prosesu ar unwaith
- Gofyniad i gyflwyno ystod eang o ddata gan ddefnyddio’r dulliau mwyaf hygyrch sydd ar gael
Yr Ateb
- Caiff ei phweru gan raglen gwmwl gyntaf y byd, Deltares Delft-FEWS, y mae asiantaethau arweiniol ledled y byd yn ymddiried ynddi
- Caiff ei chynnal mewn amgylchedd adlamol, Microsoft Azure, sy’n seiliedig ar y cwmwl
- Mae wedi ei hintegreiddio'n llawn â rhaglen fapio ArcGIS
- Mae wedi cyfuno prosesu ar ochr y gweinydd a Javascript modiwlaidd cymhleth
Canlyniadau a Buddion
- Peiriant cynllun hyblyg, sy'n gallu gweithio gydag amrywiaeth eang o fathau o ddata
- Ceir archif dreiglol o bob rhagolwg, sy’n caniatáu chwilio a dadansoddi patrymau data hanesyddol
Rydym yn chwarae rhan allweddol mewn cadw cymunedau Cymru yn ddiogel rhag llifogydd. Mae’r hyblygrwydd a’r perfformiad amser real, y mae’r Gwasanaeth Gwe ar gyfer Darogan yn eu cynnig, yn bwysig i ni er mwyn gallu darparu gwasanaeth ar gyfer darogan a rhybuddio rhag llifogydd i Gymru.