Astudiaeth Achos
Llywodraeth Cymru: Profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol

Ynglŷn â’r Cwsmer
Diwydiant
Llywodraeth a’r Sector Cyhoeddus
Pencadlys
Caerdydd, Cymru
Cyrhaeddiad Digidol
Ledled y DU
Cymorth Iaith
Dwyieithog – Saesneg a Chymraeg
Cwblhaodd Aspire systems brosiect ar gyfer yr Adran Addysg a Sgiliau i gasglu data profion llythrennedd a rhifedd ar gyfer 260,000 o ddisgyblion o bron 2,000 o ysgolion. Cyflwynwyd y profion yn 2013 er mwyn cynnig gwell syniad o lawer i Lywodraeth Cymru o sut mae dysgwyr yn perfformio o’u cymharu â’u cyfoedion.
Y Gwasanaethau A Ddarparwyd Gennym
- Datblygu Apiau
Technoleg
- .Net
- SQL
Heriau
- Galluogi pob ysgol yng Nghymru i lanlwytho eu data’n ddiogel dros y rhyngrwyd
- Dilysu’r data yn erbyn cyfres gynhwysfawr o reolau dilysu a rhoi adborth i ysgolion ac awdurdodau lleol ar ganlyniadau’r gwaith dilysu
- Cynhyrchu sgôr safonol ar gyfer pob disgybl yn seiliedig ar oedran, sgôr a’r papur prawf y gwnaeth ei sefyll
- Darparu adroddiad ar gyfer pob disgybl, yn dangos ei ganlyniadau
- Darparu adroddiad cryno lefel ysgol sy’n cymharu perfformiad ag ysgolion eraill yn yr awdurdod lleol, gweddill Cymru ac ysgolion â nodweddion tebyg
Yr Ateb
- Casglwyd data’r profion llythrennedd a rhifedd gan ddefnyddio system DEWi, a ddatblygwyd ac a reolwyd gan Aspire systems ers 2006
- Mae DEWi wedi cyrraedd rownd derfynol y gwobrau e-lywodraeth a dyma’r brif system ar gyfer cyfnewid amrywiaeth eang o ddata rhwng ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru
Canlyniadau a Buddion
- Casglwyd, dilyswyd a phroseswyd data mewn cyfnod o dair wythnos
- Cynhyrchwyd adroddiad ar gyfer pob disgybl yng Nghymru yn dangos canlyniadau eu profion llythrennedd a rhifedd, sut maent yn cymharu â disgyblion eraill a’u cynnydd dros y tair blynedd diwethaf
- Dadansoddiad manwl o ddata ar lefel yr ysgol, yr awdurdod lleol a Chymru