Astudiaeth Achos
Estyn: Rhith-ystafelloedd arolygu

Ynglŷn â’r Cwsmer
Diwydiant
Goruchwyliaeth Llywodraeth ac Addysg
Pencadlys
Caerdydd, Cymru
Cyrhaeddiad Digidol
Ledled y DU
Cymorth Iaith
Dwyieithog – Saesneg a Chymraeg
Gofynnodd Estyn i Aspire systems ddatblygu system arolygu wedi’i theilwra. Estyn yw’r corff arolygu ar gyfer holl ddarparwyr addysg a hyfforddiant Cymru. Mae’n gyfrifol am arolygu pob meithrinfa, ysgol a darparwr dysgu a hyfforddiant i oedolion bob chwe blynedd o leiaf, ac am lunio adroddiad ar ei ganfyddiadau.
Y Gwasanaethau A Ddarparwyd Gennym
- Datblygu Apiau
Technoleg
- .Net
- Sharepoint
- SQL
- Microsoft 365
Heriau
- Creu system a allai drefnu a chydgysylltu arolygiadau
- Galluogi tîm o arolygwyr i archwilio gwahanol agweddau ar ddarparwyr addysg a hyfforddiant a chrynhoi eu canfyddiadau mewn un adroddiad cyffredinol
- Casglu ymatebion i holiaduron gan ddysgwyr, rhieni a darparwyr
- Cydweddu â Microsoft Word
Yr Ateb
- Galluogodd platfform SharePoint â rhannau wedi’u teilwra ar y we i’r tîm greu Rhith-ystafell Arolygu ar gyfer pob Arolygiad
- Defnyddiwyd yr SDK Open XML i ysgrifennu cod sy’n darllen, yn ysgrifennu ac yn diwygio ffeiliau Word
- Crëwyd system holiaduron wedi’i theilwra i fwydo i mewn i’r Rhith-ystafell Arolygu ac adroddiadau arolygu
Canlyniadau a Buddion
- Mae’n cyfuno ffurflenni dyfarniad yr arolygydd ac ymatebion dysgwyr/rhieni i holiaduron mewn un adroddiad cryno i’w ryddhau i’r cyhoedd
- Mae’n caniatáu cysondeb ar draws holl adroddiadau Estyn
- Caiff yr holl wybodaeth ei storio ar gronfa ddata fel y gall yr arolygwyr ddadansoddi data a llunio adroddiadau