Astudiaeth Achos
CBAC / EDUQAS: System penodeion

Ynglŷn â’r Cwsmer
Diwydiant
Addysg a Dyfarnu Cymwysterau
Pencadlys
Caerdydd, Cymru
Cyrhaeddiad Digidol
Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Cymorth Iaith
Dwyieithog – Saesneg a Chymraeg
Mae’r bwrdd arholiadau CBAC yn contractio miloedd o arholwyr a chymedrolwyr allanol, a adnabyddir fel penodeion.
Gofynnwyd i Aspire systems greu system ar-lein newydd i reoli proses recriwtio a llwyth gwaith penodeion a chynnig ffordd o gyfathrebu’n effeithiol â hwy.
Y Gwasanaethau A Ddarparwyd Gennym
- Datblygu Apiau
- Dylunio Gwefannau
- Gweddnewidiad Digidol
- Darparu Gwasanaethau Digidol
Technoleg
- .Net
- SQL
Heriau
- Galluogi ymgeiswyr i ymgeisio ar-lein a bod yn benodai i CBAC
- Awtomeiddio’r broses o gasglu tystlythyrau
- Creu cronfa ddata ganolog o benodeion sy’n gweithio i CBAC
- Gwahodd penodeion i swyddogaethau penodol
- Caniatáu i swyddogion pwnc CBAC reoli llwythi gwaith penodeion
- Hysbysu penodeion am gyfarfodydd a digwyddiadau y disgwylir iddynt fynd iddynt
Yr Ateb
- System ar-lein ddiogel i reoli llwyth gwaith penodeion
- Wedi’i hadeiladu gyda .NET ac SQL Server a’i chynnal ar Amazon Cloud
- Hollol ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg
Canlyniadau a Buddion
- Mae’n cyflymu’r broses o recriwtio penodeion
- Mae’n hwyluso ymateb i ymgeiswyr yn syth ar ôl cymeradwyaeth swyddog pwnc
- Mae’n cynnig cronfa ddata ganolog o’r holl benodeion sy’n gweithio i CBAC
- Mae’n galluogi penodeion i hysbysu CBAC am newidiadau i’w hamgylchiadau
- Mae’n gwella ansawdd data trwy ddilysu mwy ar ddata meysydd