CBAC / EDUQAS: Gwefan gorfforaethol

Astudiaeth Achos

CBAC / EDUQAS: Gwefan gorfforaethol

 Client Overview

Ynglŷn â’r Cwsmer

Industry

Diwydiant

Addysg a Dyfarnu Cymwysterau

Headquartered

Pencadlys

Caerdydd, Cymru

Digital Reach

Cyrhaeddiad Digidol

Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Language Support

Cefnogaeth Iaith

Dwyieithog – Saesneg a Chymraeg

CBAC yw corff gwobrwyo mwyaf Cymru, ac mae’n ddarparwr blaenllaw yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mae felly’n darparu cymwysterau i filoedd o fyfyrwyr bob blwyddyn. Maen nhw’n rheoli tair gwefan gyhoeddus, un ar gyfer pob un o’u brandiau (WJEC, CBAC ac Eduqas); maen nhw’n darparu cymorth a chyngor i rieni, athrawon a myfyrwyr.

Roedden nhw angen gwefan newydd a fyddai’n symleiddio eu prosesau golygu cynnwys ar draws y gwefannau, yn ogystal â gwella ymarferoldeb i ddefnyddwyr a’u hanghenion amrywiol. Byddai angen i adeiladwaith y wefan fod yn gymhleth, gan fod â’r gallu i gadw a diweddaru miloedd o ddogfennau adnoddau addysgol, a’r sefydlogrwydd i ymdrin â thraffig gwefan trwm sy’n dod yn ystod cyfnodau prysur ar adeg canlyniadau ac arholiadau.

Fe wnaethom ni adeiladu gwefan newydd iddyn nhw yn Umbraco 8, gyda nodweddion wedi’u teilwra i ddiwallu eu hanghenion unigryw.

 

Y Gwasanaethau A Ddarparwyd Gennym

  • Datblygu Apiau
  • Rhaglen Fenter
  • Gweddnewidiad Digidol
  • Darparu Gwasanaethau Digidol
  • Integreiddio'r System

Technoleg

  • .Net
  • SQL
  • Umbraco
  • Azure

 

Heriau

  • Creu un rhyngwyneb canolog i olygyddion cynnwys ei ddiweddaru, ond cyflwyno tair gwefan gyhoeddus; pob un â’i edrychiad, teimlad ac enw parth ei hun
  • Ymarferoldeb dwyieithog
  • Sefydlogrwydd i ymdopi â chynnydd sydyn yn nhraffig y wefan
  • Mudo dros 19,000 o ddogfennau adnoddau addysgol o’r hen wefan
  • Y gallu i drosglwyddo hen bapurau arholiad o’u systemau mewnol i’r wefan ar raddfa fawr pan fo angen
  • Caniatáu i ddefnyddwyr chwilio cymwysterau ac ychwanegu diweddariadau ar gyfer cymwysterau penodol
  • Ailgyfeirio defnyddwyr o dudalennau cynnwys ar yr hen wefan i’r dudalen gyfatebol ar yr amgylchedd newydd

 

Yr Ateb

  • mae cefnogaeth amlieithog Umbraco 8 yn galluogi golygyddion cynnwys i gynhyrchu a chyhoeddi cynnwys yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd, ac yn caniatáu i ddefnyddwyr newid rhwng y ddau
  • mae Storfa Blob MS Azure wedi’i chysylltu’n uniongyrchol â swyddfa gefn Umbraco; sy’n rhoi mynediad rhwydd i olygyddion cynnwys i ychwanegu, dileu a golygu adnoddau addysgol, gan gynnal perfformiad uchel y wefan a sicrhau’r gallu i dyfu yn unol â’r anghenion
  • mae cyd-bwyswr llwyth gwefan Microsoft Azure yn cydbwyso’r wefan i mewn ac allan yn awtomatig, i addasu ar gyfer cyfnodau o draffig uchel neu isel
  • mae’r rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau pwrpasol yn caniatáu i dîm CBAC uwchlwytho hen bapurau arholiad o bell yn awtomatig
  • mae tagio cynnwys y tu ôl i’r llenni yn galluogi swyddogaeth chwilio
  • mae Umbraco Forms yn ei gwneud yn bosibl i ddefnyddwyr deilwra’r diweddariadau y maen nhw’n eu derbyn
  • mae dyluniad Rhyngwyneb Defnyddwyr yn caniatáu i olygyddion ychwanegu atgyfeiriadau HTTP yn gyflym i gynnwys sydd wedi’i symud

 

Canlyniadau a Buddion

  • Llai o weinyddu: mae’r system symlach yn caniatáu i olygyddion cynnwys reoli tair gwefan ar yr un pryd ac mae’r rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau yn caniatáu uwchlwytho hen bapurau arholiad yn rhwydd
  • Y gallu i ehangu a chynnal y wefan yn fewnol; mae cydrannau tudalen ail-ddefnyddiadwy, a adeiladwyd ymlaen llaw, yn caniatáu i olygyddion cynnwys gynhyrchu cynnwys cyson ar gyfer y brand newydd heb ganllawiau technegol
  • Defnydd effeithlon o adnoddau wrth gydbwyso llwyth: mae’n arbed arian yn yr hirdymor ond yn gallu ymdrin â lefelau uchel o draffig gwefan pan fo angen
  • Hawdd ei ddefnyddio; gall myfyrwyr, rhieni ac athrawon lywio a chwilio yn rhwydd, yn ogystal â gallu teilwra eu diweddariadau a newid rhwng y Gymraeg a’r Saesneg