Astudiaeth Achos
Senedd Cymru: Dylunio profiad defnyddwyr ac adeiladu gwefannau

Ynglŷn â’r Cwsmer
Diwydiant
Llywodraeth a’r Sector Cyhoeddus
Pencadlys
Caerdydd, Cymru
Cyrhaeddiad Digidol
Ledled y DU
Cymorth Iaith
Dwyieithog – Saesneg a Chymraeg
Mae’r Senedd yn Senedd genedlaethol fodern, flaengar, ac mae hyn wedi’i adlewyrchu yn uchelgeisiau'r Llywydd i'r Senedd osod meincnod ar gyfer deddfwrfeydd eraill ledled y byd. Mae'n hanfodol bod y wefan yn adlewyrchu'r uchelgeisiau hyn.
Yn unol â strategaeth y Senedd i foderneiddio'r gwaith o gynhyrchu, rheoli a defnyddio gwybodaeth fusnes y Senedd gofynnwyd i Aspire systems ddylunio a datblygu gwefan newydd y Senedd.
Trefnodd Aspire systems weithgareddau Profiad Defnyddwyr (UX) gyda rhanddeiliaid allweddol yn ystod adeg ddarganfod estynedig. Roedd hyn yn cynnwys datblygu persona, mapio taith defnyddwyr, datblygu pensaernïaeth wybodaeth, profi gan ddefnyddwyr a gweithgareddau dylunio gydag amrywiaeth o adnoddau a thechnegau.
Gan weithio’n agos gyda’r Senedd, gweithiodd un o dimau datblygu hyblyg Aspire systems mewn sbrintiau yn defnyddio’r fframwaith Scrum gan ganiatáu proses ddatblygu iteru-gynyddol yn galluogi amlygrwydd cynnar ac adborth parhaus drwy gydol y broses o ddatblygu’r wefan.
Y Gwasanaethau A Ddarparwyd Gennym
- Profiad Y Defnyddiwr
- Darparu Gwasanaethau Digidol
- Datblygu Apiau
- Dylunio Gwefannau
- Integreiddio'r System
Technoleg
- AZURE
- SQL
- Umbraco
- .net
Heriau
- darparu gwefan newydd sbon a modern i’r Senedd wedi’i datblygu o’r gwaelod i fyny
- mae’n rhaid bod gan Bensaernïaeth Wybodaeth y safle newydd anghenion defnyddwyr y wefan wedi’u gosod yn gadarn wrth ei graidd, a’i bod wedi’i strwythuro o amgylch eu hanghenion a disgwyliadau yn hytrach na’i bod wedi’i seilio ar strwythur y sefydliad
- rhaid i'r wefan ar ei newydd wedd gynnal golwg a naws gyson ledled y safle fel ni waeth ar ba dudalen y mae’r defnyddiwr, mae’n ymwybodol ei fod dal o fewn ystâd sylfaenol y Senedd. Rhaid iddi wneud hyn gan hefyd ystyried a diwallu gwahanol anghenion amrywiaeth eang o ddefnyddwyr
- rhaid i olwg a naws y wefan gyd-fynd yn glir ac yn gyson â chanllaw Brand a Thôn Llais presennol y Senedd. Rhaid i ddyluniad newydd y safle fod yn ffres, yn lân, yn syml, yn gyfoes, yn ddeniadol ac yn hygyrch
- oherwydd maint a graddfa'r data presennol, roedd y mudo'n arbennig o heriol, gan ofyn am fudo cannoedd o filoedd o ddogfennau a thudalennau, gan gynnwys rheoli cysylltiadau'n effeithiol
- amgylchedd awduro dwyieithog ac offer golygu cynnwys effeithiol ac effeithlon
Yr Ateb
- mae'r wefan wedi'i datblygu gan ddefnyddio Umbraco 8 a chaiff ei chynnal yn y cwmwl ym Microsoft Azure, gan ddefnyddio gwasanaethau apiau Azure, storio Azure, porth Ap a chronfeydd data SQL yn y cwmwl i ddarparu amgylchedd diogel sy’n gytbwys o ran llwyth
- mae'r rheolwyr cynnwys canolog yn darparu cymorth ar gyfer eitemau cynnwys y gellir ei ailddefnyddio, gan gynnwys delweddau, eitemau newyddion, blogiau, fideos, a chynnwys wedi'i fewnblannu, megis Senedd.tv
- integreiddio â Chwiliad Gwybyddol Microsoft Azure i ddarparu galluoedd chwilio uwch ac effeithlon sy'n cyfuno canlyniadau chwilio’r wefan â'r rhai o systemau busnes trydydd parti
- gwnaethom ddatblygu sawl ap cynnwys Umbraco; i fewnforio data yn awtomatig ac â llaw o systemau busnes allweddol, yn ogystal â darparu gwybodaeth i olygyddion cynnwys ynghylch oedran darllen ac amser darllen eu cynnwys
- yn gwneud bod mwy na 100,000 o ddogfennau ar gael yn ymwneud â busnes y Senedd megis adroddiadau pwyllgor, papurau ymchwil, dogfennau a osodwyd, a phapurau wedi’u hadneuo
- integreiddio â systemau trydydd parti gan gynnwys system ddeisebau, system reoli busnes (modern.gov) a'r cofnod (rhaglen bwrpasol a ddatblygwyd gan Aspire systems i ddarparu cofnodion tryloyw o holl fusnes y Senedd megis cyfarfodydd, dadleuon a thrawsgrifiadau pwyllgorau)
- dwyieithog, gan gynnwys swyddfa gefn Umbraco gwbl ddwyieithog. Ers hynny, mae cyfieithiadau Cymraeg y swyddfa gefn a weithredwyd gan Aspire systems wedi'u gwneud yn rhan o System Rheoli Craidd Umbraco
- mudo safonau micro WordPress a SharePoint o’r gorffennol i weithrediadau Umbraco cyfoes a chyson
Canlyniadau a Buddion
- mae'r wefan yn rhagorol o ran ei Phrofiad Defnyddiwr a'i Rhyngwyneb Defnyddiwr. Gan ddefnyddio safonau ac arferion diweddaraf UX, mae'r safle newydd yn darparu profiad syml sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac sy'n ei gwneud yn hawdd i ddefnyddwyr ddod o hyd i wybodaeth ynghyd â gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'u maes diddordeb ac sy'n berthnasol iddo
- mae’r rhyngwyneb defnyddwyr yn darparu llywio clir ac yn galluogi bod y cynnwys yn ganolog drwy gyflwyno gwybodaeth bwysig mewn ffordd gref, glir a darllenadwy
- gall defnyddwyr ymchwilio'n ddyfnach i'r wefan ac o'i hamgylch, fel eu bod yn darganfod gwybodaeth newydd, yn dysgu mwy am y Senedd, ac yn defnyddio a rhannu'r cynnwys
- mae'r wefan yn darparu profiad eithriadol i ddefnyddwyr drwy ddyfais o’u dewis, gyda phrofiad defnyddwyr cyson hyd a lled is-setiau a safleoedd micro o fewn ecosystem un wefan
- mae gan olygyddion cynnwys gyfres hyblyg o dempledi a chydrannau i ddatblygu a chyhoeddi tudalennau'n hawdd ac yn gyson ledled y prif safle a'r is-safleoedd, gyda rheolaeth fanwl dros arddull o fewn safleoedd micro
Drwy gydol y broses, gweithiodd Aspire systems gyda ni i ganolbwyntio ar gyflawni ein prif amcanion, a defnyddion nhw ymarferoldeb Umbraco a'u sgiliau datblygu yn ddyfeisgar i gyflawni ein holl ofynion sylfaenol yn llwyddiannus.