Cyfoeth Naturiol Cymru : System gydymffurfio

Astudiaeth Achos

Cyfoeth Naturiol Cymru : System gydymffurfio

 Client Overview

Ynglŷn â’r Cwsmer

Industry

Diwydiant

Llywodraeth a’r Sector Cyhoeddus

Headquartered

Pencadlys

Caerdydd, Cymru

Digital Reach

Cyrhaeddiad Digidol

Ledled y DU

Language Support

Cymorth Iaith

Dwyieithog – Saesneg a Chymraeg

Roedd angen system gydymffurfio ar Gyfoeth Naturiol Cymru y gallai ei defnyddio i drefnu a chofnodi ymweliadau cydymffurfio, ond a fyddai hefyd yn integreiddio â’i systemau presennol. Gwnaethom ni adeiladu’r System Gofnodi Asesiadau Cydymffurfio (CARS) iddo.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r Corff mwyaf yng Nghymru a Noddir gan Lywodraeth Cymru a rhan o’i waith yw gwirio ac adrodd ar gydymffurfiaeth â rheoliadau sy’n diogelu pobl a’r amgylchedd, gan gynnwys y diwydiannau morol, coedwig a gwastraff. System gwmwl gwbl integredig yw CARS sydd wedi’i chynllunio a’i hadeiladu’n bwrpasol i fodloni gofynion Cyfoeth Naturiol Cymru: mae’n trefnu ymweliadau, yn caniatáu i’w aseswyr wneud nodiadau, yn lanlwytho lluniau i’w banc Asedau sef system storio lluniau, yn anfon dogfennau i’w system reoli dogfennau ar-lein, SharePoint, ac yn integreiddio â System Microsoft Dynamics CRM i gael gwybodaeth am reoliadau.

 

Y Gwasanaethau A Ddarparwyd Gennym

  • Datblygu cymwysiadau pwrpasol
  • Ymgynghori
  • Gwasanaethau cwmwl

Technoleg

  • .Net
  • SQL
  • AZURE

 

Heriau

  • Integreiddio â nifer o wahanol systemau
  • Gofynion trefnu cymhleth
  • System hygyrch sy’n gyfeillgar i ddefnyddwyr
  • Cynhyrchu adroddiadau ar wybodaeth reoli o ddata a fewnbynnir

 

Yr Ateb

  • Cymhwysiad gwe cwmwl pwrpasol, .NET, MVC
  • APIs pwrpasol i alluogi i ddata gael ei gymryd o systemau eraill
  • Cronfa ddata SQL Cloud i storio data cydymffurfio
  • Gwasanaethau adrodd gweinydd SQL i gynhyrchu adroddiadau cymhleth ar ddata

 

Canlyniadau a Buddion

  • Storio adroddiadau’n ddigidol
  • Rheoli fersiynau a hanes archwilio llawn
  • Integreiddio’r holl systemau yn un rhyngwyneb
  • Cynhyrchu refeniw gan fod anfonebau’n cael eu creu’n awtomatig