Astudiaeth Achos
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: Gwefan gorfforaethol a mewnrwyd staff

Ynglŷn â’r Cwsmer
Diwydiant
Llywodraeth a’r Sector Cyhoeddus
Pencadlys
Caerfyrddin, Cymru
Cyrhaeddiad Digidol
Rhanbarthol – Canolbarth a Gorllewin Cymru
Cymorth Iaith
Dwyieithog – Saesneg a Chymraeg
Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn bwriadu defnyddio Microsoft SharePoint 2010 i wella nifer o brosesau busnes presennol. Roedd y Gwasanaeth yn chwilio am gymorth technegol SharePoint arbenigol er mwyn cefnogi’r broses.
Ar sail ddaearyddol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yw’r gwasanaeth mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Cydnabuwyd gan y gwasanaeth yr angen i sicrhau bod staff ar draws pob lleoliad wedi’u hymgysylltu’n llawn ag egwyddorion ac arferion sefydliadol ac roedd yn dymuno cael mewnrwyd ddeniadol a llawn gwybodaeth. Mae’n hanfodol bod y gwasanaeth yn cyfathrebu’n eglur ac yn gyflym gyda’r cyhoedd a hwn oedd y gofyniad craidd yn y briff ar gyfer y wefan. Gan weithio gyda thîm marchnata’r Gwasanaethau, adeiladwyd y wefan gennym gan ddefnyddio rhannau wedi’u teilwra ar y we er mwyn helpu i grwpio a darparu cynnwys cysylltiedig i’r cyhoedd.
Y Gwasanaethau A Ddarparwyd Gennym
- Datblygu Apiau
- Rhaglen Fenter
Technoleg
- Sharepoint
- .Net
Heriau
- Adeiladu gwefan ddwyieithog
- Adeiladu platfform mewnrwyd
- Darparu cymorth parhaus
- Trosglwyddo gwybodaeth i ddefnyddwyr
- Annog Defnyddwyr i’w Mabwysiadu
Yr Ateb
- Microsoft SharePoint 2010 gyda phecyn Iaith Gymraeg
- Datblygu gwefan gyhoeddi gweledol gyfoethog
- Annog ymgysylltiad â’r safle mewnrwyd trwy gystadleuaeth dod o hyd i logo
Canlyniadau a Buddion
- Gwefan SharePoint 2010 wedi’i chynllunio’n dda a gweledol gyfoethog
- Templedi tudalen hyblyg a Rhannau Gwe y gellir eu ffurfweddu gan alluogi adran TG y Gwasanaeth i adeiladu a chefnogi’r safle’n rhwydd
- Profiad cyson i ddefnyddwyr ar draws y Fewnrwyd a’r wefan gyhoeddus