Link: Ap Lleoli Peiriannau Twll yn y Wal

Astudiaeth Achos

Link: Ap Lleoli Peiriannau Twll yn y Wal

 Client Overview

Ynglŷn â’r Cwsmer

Industry

Diwydiant

Gwasanaethau Ariannol a Thaliadau

Headquartered

Pencadlys

Llundain, Y Deyrnas Unedig

Digital Reach

Cyrhaeddiad Digidol

Ledled y wlad

Language Support

Cefnogaeth Platfform

iOS ac Android

Mae tua 70,000 o beiriannau arian parod yn gysylltiedig â rhwydwaith LINK, sy'n golygu pob peiriant twll yn y wal yn y DU mewn gwirionedd. Mae Aspire systems wedi cynllunio a datblygu ap llawn nodweddion ar gyfer ffôn symudol ar ran LINK, sy'n helpu defnyddwyr i ddod o hyd i beiriant arian a chael arian parod pan eu bod ar grwydr. Mae'r ap ar gael ar gyfer ffonau iPhone ac Android a dyma'r un mwyaf cynhwysfawr o'i fath ar gyfer dod o hyd i beiriannau twll yn y wal yn y DU.

Gan weithio'n agos gyda'n cleient, Link Scheme Ltd, fe wnaethom gynllunio a datblygu'r ap gan ddefnyddio'r llwyfan datblygu ar draws dyfeisiau, Xamarin. Roedd hwn yn galluogi ein tîm datblygu i weithio mewn un sylfaen cod ar gyfer iPhone ac Android gan ddatblygu'r ap yn gyflym ar y ddau lwyfan ffonau symudol, gan arbed cost i'r cleient.

Roedd cynnal profion defnyddioldeb â thrawstoriad o'r farchnad defnyddwyr trwy gydol y gwaith datblygu yn ein galluogi i ddod o hyd i broblemau'n gynnar a sicrhau profiad o ansawdd uchel i'r defnyddiwr yn y pen draw.

Gan weithio gyda Thomas Pocklington Trust, elusen ar gyfer rhai sydd wedi colli eu golwg, bu modd i ni ddilysu'r nodweddion hygyrchedd a oedd wedi eu cynnwys yn yr ap gan gynnwys y gallu i ddefnyddio'r ap yn effeithiol â thechnolegau cynorthwyol iPhone ac Android, VoiceOver a Talkback.

Mae'r ap yn dangos i ddefnyddwyr ble mae'r peiriant twll yn y wal agosaf atynt trwy ddefnyddio map a rhestr o leoliadau. Arddangosir gwybodaeth am bellter a chyfeiriad gan ddefnyddio cyfleusterau lleoliad mewnol a chwmpawd y ffôn symudol. Gall hefyd hidlo canlyniadau chwilio, er enghraifft trwy ddarparu gwybodaeth am: beiriannau twll yn y wal sy'n darparu cymorth clywedol, peiriannau twll yn y wal sy'n darparu papurau £5; peiriannau twll yn wal y ceir eu defnyddio am ddim; neu'r rhai hynny sy'n perthyn i fanc penodol.

Mae'r ap wedi'i gynllunio i deimlo'n naturiol i ddefnyddwyr y ddau fath o ddyfais. Er enghraifft, mae Google Maps wedi ei gynnwys yn y fersiwn Android, ond mae'r iPhone yn defnyddio Apple Maps.

Mae nodweddion eraill yn cynnwys: awgrymiadau i ddefnyddwyr ynglŷn â sut i aros yn ddiogel wrth ddefnyddio peiriant twll yn y wal; system adborth sy'n caniatáu i ddefnyddwyr roi gwybod am broblemau gyda pheiriannau twll yn y wal; a dulliau o ganiatáu rhybuddion pan fyddwch yn agos i un o'ch hoff beiriannau twll yn y wal.

Mae'r ap ar gael yn yr App Store ar gyfer iPhone a Google Play ar gyfer Android.

 

Y Gwasanaethau A Ddarparwyd Gennym

  • Darparu Gwasanaethau Digidol

Technoleg

  • Azure
  • .Net
  • SQL
  • Android & IOS

 

Heriau

  • Sicrhau bod data ar gael i ddefnyddwyr am 70,000 a mwy o beiriannau twll yn y wal ar ffurf map a rhestr
  • Yn hygyrch i ddefnyddwyr dall a rhannol ddall
  • Ar gael ar wahanol lwyfannau ffonau symudol
  • Gallu cynhwysfawr i chwilio a hidlo nodweddion peiriannau twll yn y wal
  • System adborth i alluogi defnyddwyr i roi gwybod am broblemau â pheiriannau twll yn y wal neu gywirdeb y data

 

Yr Ateb

  • Un sylfaen cod ar draws dyfeisiau (iPhone ac Android) gan ddefnyddio llwyfan Xamarin
  • Wedi’i integreiddio â Google Maps ac Apple Maps
  • Gwasanaeth gwe a chronfa ddata a letyir yn Microsoft Azure
  • Cynhaliwyd profion drwy gydol y cyfnod datblygu gyda defnyddwyr yn ein labordai defnyddioldeb
  • Mae’n synhwyro pan eich bod yn agos i un o’ch hoff beiriannau twll yn y wal drwy ddefnyddio technoleg "geofencing"

 

Canlyniadau a Buddion

  • Yr ap lleoli peiriannau twll yn y wal mwyaf cynhwysfawr yn y DU
  • Mae’n dangos ymrwymiad LINK i gynhwysiant ariannol
  • Gostyngiad yn y gost o ddatblygu a chynnal a chadw’r ap yn barhaus oherwydd un sylfaen cod ar draws llwyfannau
  • Y gallu i adalw data cyfredol am beiriannau twll yn y wal ar alw gan LINK