Astudiaeth Achos
Cyngor Croydon: Gwasanaethau Gwe Azure

Ynglŷn â’r Cwsmer
Diwydiant
Llywodraeth a’r Sector Cyhoeddus
Pencadlys
Croydon, Llundain, DU
Cyrhaeddiad Digidol
Ehangder led-fwrdeistrefol a gorchudd cyfeiriadau cenedlaethol
Mae Cyngor Croydon yn cymryd rhan mewn menter weddnewid ddigidol ar hyn o bryd, sy'n cynnwys symud llawer o'u gwasanaethau presennol i wasanaethau cwmwl. Fel rhan o hyn, gwnaethom adeiladu dau API cwmwl Microsoft Azure pwrpasol iddynt, API Chwilio Trwydded Barcio ac API Chwilio Cyfeiriad.
I greu'r API Chwilio Trwydded Barcio, gwnaethom efelychu cronfeydd data treth gyngor a chofrestr etholiadol cyngor Croydon yn y cwmwl Azure, a chreu API pwrpasol, sy'n chwilio am gyfeiriad ymgeisydd ac yn rhoi gwybod iddo pa un a yw'n gymwys i gael trwydded barcio ai peidio. I greu'r API Chwilio Cyfeiriad, efelychwyd y Rhestr Tir ac Eiddo Lleol (LLPG), sy'n cynnwys pob cyfeiriad yn Croydon a'r Rhestr Tir ac Eiddo Cenedlaethol (NLPG), sy'n cynnwys pob cyfeiriad ym Mhrydain. Yna, crëwyd API pwrpasol arall, sy'n gallu chwilio'r cronfeydd data hyn i gael gafael ar unrhyw gyfeiriad o god post neu enw stryd, gan arbed y cyngor rhag gorfod gwneud taliadau i wasanaethau trydydd parti.
Y Gwasanaethau A Ddarparwyd Gennym
- Datblygu Apiau
- Darparu Gwasanaethau Digidol
- Gweddnewidiad Digidol
- Strategaeth Ddigidol
Technoleg
- .Net
- SQL
- Azure
Heriau
- Copïo symiau mawr o ddata i'r cwmwl
- Creu mecanweithiau chwilio effeithlon ar gyfer y data
- Prosesu 40 miliwn o gofnodion data O.S. yn effeithlon
Yr Ateb
- Ysgrifennu pecynnau SSRS i symud data i’r cwmwl
- Ysgrifennu APIs pwrpasol yn .NET
- Defnyddio cronfeydd data SQL Cloud i storio data
- Dilysiad diogel OAUTH2
Canlyniadau a Buddion
- Gwasanaethau cwmwl
- Gellir defnyddio’r APIs ar gyfer nifer o gymwysiadau pryd bynnag y bydd y cyngor eu hangen
- Llai o gostau
- Ddim yn dibynnu ar wasanaethau trydydd parti bellach