Astudiaeth Achos
Coleg Plismona: Canolfan 'What Works'

Ynglŷn â’r Cwsmer
Diwydiant
Llywodraeth a’r Sector Cyhoeddus
Pencadlys
Coventry, Lloegr
Cyrhaeddiad Digidol
Cenedlaethol (ledled y DU)
Pwrpas
Cefnogi plismona seiliedig ar dystiolaeth a lleihau troseddu
Mae'r Ganolfan What Works ar gyfer Lleihau Troseddau yn cael ei chynnal gan Y Coleg Plismona ac mae’n rhan o fenter gan Lywodraeth y DU i ddatblygu Canolfannau What Works i wella'r modd y mae sefydliadau yn creu, yn defnyddio ac yn rhannu tystiolaeth o ansawdd uchel ar gyfer gwneud penderfyniadau. Gweithiodd Aspire systems gyda’r Coleg a Choleg Prifysgol Llundain (UCL) i greu gwefan ddeniadol gyda phecyn cymorth lleihau troseddau a map ymchwil rhyngweithiol.
Mae’r pecyn cymorth rhyngweithiol yn caniatáu mynediad i'r gronfa dystiolaeth lleihau troseddau, gan alluogi defnyddwyr i bwyso a mesur tystiolaeth ar effaith, cost a gweithrediad ymyraethau amrywiol. Gall defnyddwyr hidlo a didoli ymyraethau, a chael gafael ar ragor o fanylion a’u nodi fel eu bod wedi eu hamlygu wrth ddychwelyd i'r wefan yn ddiweddarach. Gan ddefnyddio fframwaith graddio a adnabyddir fel EMMIE, gall defnyddwyr grynhoi effaith pob ymyrraeth ar drosedd (Effect), sut y mae’n gweithio (Mechanism), ble y mae’n gweithio (Moderators), sut i’w gweithredu (Implementation) a chost yr ymyrraeth honno (Economic), gan ganiatáu i dystiolaeth gael ei defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol i ddylanwadu ar benderfyniadau ar gyfer lleihau troseddau.
Mae’r map lleihau troseddau rhyngweithiol yn dangos manylion ymchwil parhaus yn ymwneud â phlismona sy’n cael ei gynnal mewn prifysgolion a sefydliadau eraill ledled y DU. Mae’r map, y gellir ei chwyddo a’i lywio gan ddefnyddwyr, yn nodi lleoliadau’r sefydliadau a’u prosiectau ymchwil, y gellir eu hidlo wedyn yn ôl rhanbarth a phwnc yr ymchwil.
Y Gwasanaethau A Ddarparwyd Gennym
- Datblygu Apiau
- Darparu Gwasanaethau Digidol
- Gweddnewidiad Digidol
- Dylunio Gwefannau
Technoleg
- .Net
- Sharepoint
- AZURE
Heriau
- Creu gwefan ddeniadol a diddorol sy’n gwbl ymatebol ar bob math o ddyfeisiadau gan gynnwys ffonau symudol a llechi
- Rheoli cynnwys i ganiatáu i staff y Coleg Plismona ddiweddaru’r wefan yn rhwydd
- Pecyn cymorth rhyngweithiol gyda fframwaith gwerthuso a graddio hawdd ei ddeall
- Map ymchwil i arddangos sefydliadau a chaniatáu hidlo prosiectau ymchwil
- Gofynion cadarn, sydd ar gael yn rhwydd
Yr Ateb
- System rheoli cynnwys a dogfennau SharePoint 2013
- Pecyn cymorth pwrpasol sy'n darparu mynediad hynod ryngweithiol at ddata SharePoint sylfaenol
- Fferm gweinyddion SharePoint cytbwys a chadarn gyda Microsoft Azure yn westeiwr
- Map ymchwil rhyngweithiol gan ddefnyddio Google maps API
Canlyniadau a Buddion
- Mae'n caniatáu i staff y Coleg Plismona reoli cynnwys, data a phrosiectau ymchwil ar gyfer lleihau troseddau
- Mae'n darparu gwybodaeth, offer a chanllawiau i Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd a rhanddeiliaid eraill i’w helpu i dargedu eu hadnoddau yn fwy effeithiol
- Rhannu gwybodaeth am yr "hyn sy’n gweithio" gyda’r cyhoedd i ddatblygu ffydd yng ngwasanaeth yr heddlu a phartneriaid
- Cryfhau cysylltiadau cydweithredol rhwng gwasanaeth yr heddlu, partneriaid lleihau troseddau a’r sector academaidd
Rydym yn falch iawn o’n gwaith ar y prosiect hwn, ac yn enwedig ein Cyfarwyddwr Technegol, Darren Chapple a arweiniodd y prosiect ac a gafodd Gymeradwyaeth y Prif Gwnstabl am ei waith ar y pecyn cymorth ar gyfer lleihau troseddau.