Cyngor Sir Ceredigion: Darganfod Ceredigion

Astudiaeth Achos

Cyngor Sir Ceredigion: Darganfod Ceredigion

 Client Overview

Ynglŷn â’r Cwsmer

Industry

Diwydiant

Llywodraeth a’r Sector Cyhoeddus

Headquartered

Pencadlys

Aberaeron, Cymru

Digital Reach

Cyrhaeddiad Digidol

Twristiaid Domestig a Rhyngwladol

Language Support

Cymorth Iaith

Dwyieithog – Saesneg a Chymraeg

Gofynnodd Cyngor Sir Ceredigion i Aspire systems greu gwefan dwristiaeth i hyrwyddo’r sir fel cyrchfan trwy gydol y flwyddyn. Roedd angen gwefan fodern, ryngweithiol ar y Cyngor a oedd yn canolbwyntio ar y cwsmer gan arddangos eu 60 milltir o arfordir a’u traethau arobryn i ddarpar dwristiaid o’r wlad hon a thramor.

 

Y Gwasanaethau A Ddarparwyd Gennym

  • Dylunio Gwefannau
  • Datblygu Apiau

Technoleg

  • Sharepoint
  • .Net

 

Heriau

  • Creu gwefan ag ymddangosiad a theimlad cyfoes iddi gan gynnwys graffeg a ffotograffiaeth o ansawdd da
  • Cael gwefan a fyddai’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg
  • Bodloni safonau hygyrchedd AA o leiaf
  • Hwyluso’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol

 

Yr Ateb

  • Cynllun SharePoint 2010 cymhleth ag elfennau wedi’u teilwra yn cynnwys rheolaethau addasu, rhannau ar y we, nodweddion a ffurfweddiad. Y cwbl wedi’i gyflawni mewn llai na mis
  • Gweithiodd ymgynghorwyr Aspire systems gyda dylunwyr graffig FBA Group i gynhyrchu gwefan a strwythur deniadol a gweledol gyfoethog
  • Rhoddwyd hyfforddiant ar-safle Aspire systems i staff Ceredigion er mwyn rhoi’r wybodaeth a’r gallu iddynt reoli’r cynnwys ar eu gwefan yn effeithiol

 

Canlyniadau a Buddion

  • Mae templedi hyblyg a rhannau y gellir eu ffurfweddu ar y we yn galluogi’r rheolwyr cynnwys yn y cyngor i fod â rheolaeth lawn dros ddelweddau a nodweddion y cynnwys
  • Cyfryngau cymdeithasol integredig
  • Digwyddiadau trydydd parti, systemau archebu a GoogleMaps wedi’u hintegreiddio i greu pecyn llawn i ddarpar dwristiaid